Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Broughton Cyngor Cymuned
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023
- Dyddiad cyhoeddi 30 Mehefin 2023
- Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Keith Lea
Clerk / Responsible Finance Officer
Homelea
Weston Road
New Broughton
Wrexham
LL11 6TG
Email : keithlea@hotmail.com
Mob. 07808891512
Rhwng yr oriau o 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 3 Gorffennaf 2023
Ac yn dod i ben ar 28 Gorffennaf 2023
- O 11 Medi 2023, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
- yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.
- Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.