CYNGOR CYMUNED BROUGHTON

Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod CYNGOR CYMUNED BROUGHTON yn bwriadu Cyfethol TRI aelod i lenwi’r lleoedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorwyr yn WARD GWENFRO yn dilyn diffyg nifer enwebiadau ar gyfer yr Etholiadau sydd i’w cynnal ar 5 Mai 2022.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
    • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
    • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
    • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer cyfethol ar gyfer y seddi gwag neu eisiau mwy o wybodaeth am rôl Cynghorydd Tref, cysylltwch â :

Mr Keith Lea, Clerc / Swyddog Cyllid Cyfrifol

Homelea, Ffordd Weston, Brychdyn Newydd, Wrecsam LL11 6TG

Ffôn: 07808891512

Ebost : keithlea@hotmail.com

Erbyn dydd Llun 13 Mehefin 2022

Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei bod yn gymwys i sefyll.