Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr.

Cyngor Dref Llangollen.  

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

  1. Dyddiad cyhoeddi 20 Mehefin 2022
  1. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Keith Lea

Clerc / Swyddog Cyllid Cyfrifol

Homelea

Weston Road

New Broughton

Wrexham

LL11 6TG

Rhwng yr oriau o 10.00 a 14.00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Yn dechrau ar 20 Awst 2022 ac yn dod i ben ar 17 Gorffennaf 2022.

  1. O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
  • yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
  1. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.

Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.